Rheoli dy Flog

Crea dy flog nawr! Mae'n hawdd ac AM DDIM

Newid Cymru am unwaith ac am byth
Bwriad y blog yw i wedd newid eich meddyliau at yr iaith Gymraeg ac i pwysleisio'r angen am newid yn ein gwlad. Cefnogaf Annibyniaeth i Gymru a ffyniant i'r Iaith Gymraeg, Yn hir dymor hoffwn weld Cymru'n llwyddo i fod yn annibynnol a'r iaith Gymraeg yn i

17/05/2008 GMT 1

Lle mae'r Gymraeg dal yn iaith y Gymuned.

adamjones416 @ 21:25

Fel y gwyddoch chi mae'r Gymraeg dal yn iaith y Gymuned ar rhan fawr o Gymru ond am faint tybed. Mae'n braf cael gweld bod yr iaith Gymraeg yn cynyddi yn ei defnydd yn y De ddwyrain ac o achos hyn mae'r cynyddiad yn y sensws yn adlewyrchi hyn ond beth am ein bröydd naturiol?. Heb sylfaen aelwyd a chymuned na does gan iaith bwrpas! Mae'r Gymraeg yn dal i gweithredu fel brif iaith mewn nifer fawr o Gymunedau, ond mae'r mewnlifiad Saesneg i'r ardaloedd yma yn fygythiad erchyll i'r iaith. Heb y gadarnleoedd yma mi fydd y Gymraeg yn süwr o fawr ac yn gwanhau. Fy mreuddwyd i sydd fel rwy'n ymwybodol yn breuddwyd i llawer o'r Cymry.

1) Gweld yr iaith Gymraeg yn byw ac yn ffynni yn ei chymunedau
2) Gweld yr iaith yn ennill tir dros Gymru gyfan,
3) Ffurfio Bro Gymraeg, Lle mae oddeutu 50%+ yn siarad yr iaith,
Bydd hyn yn

Sicrhau dyfodol yr iaith o fewn y teulu a'r Cymuned. Yn y llefydd yma rhaid gwneud yn süwr bod yr addysgu i gyd yn Gymraeg ac yn Gymraeg yn unig gyda Saesneg ond yn pwnc craidd.

Gwneud yn süwr bod gweinyddiad y cynghorydd lleol i gyd yn Gymraeg. Achos ar hyn o bryd mae'r sefyllfa yn erchyll, Esgusodion llac fod pawb yn Gymry Cymraeg ond am un ac felly gan fod pawb yn deall Saesneg rhaid newid i'r Saesneg! (RWTS LLWYR) Os mae'r person yna am aros mewn bro Gymraeg dylai ystyried natur ieithyddol yr ardal ac felly neu llai dysgu'r iaith neu symud ymaith i gyngor tu fas i'r Bro.

Rhaid gwneud yn süwr hefyd fod gan pobl leol yr hawl a'r dewis gyntaf i bryni tai yn yr ardal.

Rhaid creu cyfleodd cymdeithasu a hyn trwy'r Gymraeg.

Rhaid sefydlu COLEG FFEDERAL CYMRAEG.

Enwau newydd Gymraeg i bopeth.

Cael gwared o'r enwau Saesneg a mabwysiadwyd gan y Sais am na doedd yn medru'r Gymraeg. H,y

Caerfyrddin yn lle Carmarthen
Aberteifi yn lle Cardigan
Llanbedr yn lle Lampeter
Rhydaman yn lle Ammanford
Glanaman yn lle Glanamman
Brynaman yn lle Brynamman
Llwchwr yn lle Loughour
Cydweli yn lle Kidwelly
A.Y.Y.B

Dylai'r Gymraeg ymddangos yn bennaf ac yn gyntaf ar bob arwydd gyhoeddus (mae hyn yn digwydd yn barod)- symud y polisi yma ymlaen i godi arwyddion uniaith Gymraeg yn y bröydd lle mae dros 70% yn medru'r iaith megis Dyffryn Aman a Chwm Gwendraeth yn Sir Gaerfyrddin.

Gorsaf Radio i bobl Ifan debyg i radio Cymru ond un sydd wedi ei anelu at gynulleidfa ifanc.

Gorfodi Cwmnïoedd tu fewn i'r fro i fabwysiadu cynllun iaith Gymraeg ac i drin a pharchu'r iaith fel y mae'n gwneud gyda'r Saesneg.

4) CYMRU ANNIBYNNOL O FEWN YR UNDEB EWROPEAIDD FEL IWERDDON
5) CYMRU CYMRAEG AC NID DWYIEITHOG

Archif | Crea dy flog nawr! Mae'n hawdd ac AM DDIM